Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mehefin 2020
Amser:
14.00 -
15.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6347
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor:
· gan nodi faint o gyllid ychwanegol cyffredinol ar gyfer COVID-19 y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael yn y gyllideb atodol hon;
· gan rannu dangosyddion perfformiad allweddol yr adran iechyd ar gyfer mesur effeithiolrwydd y gwariant gwerth £57 miliwn i gefnogi'r Strategaeth Profi Olrhain Diogelu, o ran y cyfalaf sy'n ofynnol i sefydlu'r rhaglen a'i chostau gweithredu;
· a chan nodi canlyniad ei thrafodaethau â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.